Mae hunan hyder yn ganolog i unrhyw fath o lwyddiant.
Mae hunan hyder yn ganolog i unrhyw fath o lwyddiant. Gofynnwch i unrhyw berson llwyddiannus. Mi sgwenes i lyfr am ferched yn y byd comedi dal-dy-dir (stand-up) gafodd ei gyhoeddi gan Parthian Press yn 2016. Er yr amser yna mae wedi cael ei ddisgrifio gan ‘Funny Women’ – cymuned gomedi fwyaf y Deurnas Unedig, fel ‘the ultimate canon of female stand-up comics.’
Fe ysgrifennais lyfr am ferched yn y byd comedi dal-dy-dir (stand-up) gafodd ei gyhoeddi gan Parthian Press yn 2016. Cafodd ei ddisgrifio gan ‘Funny Women’ – cymuned gomedi fwyaf y Dewurnas Unedig fel ‘the ultimate canon of female stand-up comics’.
R’oedd siarad gyda merched llwyddiannus megis Joan Rivers, Jo Brand, Ronni Ancona, Nina Wadia ac eraill yn agoriad llygaid ac fe ddywedodd pob un ohonyn nhw yr union r’un peth – sef fod hunan-hyder a hunan-gred yn hanfodol i BOB llwyddiant, Does dim ots pa mor llwyddiannus ydych chi yn barod.
Ydych chi:
⦁ Angen bod yn fwy hyderys yn y gwaith neu mewn sefyllfa busnes?
⦁ Angen bod yn fwy hyderys mewn unrhyw ran o’ch bywyd?
⦁ Angen gwneud impact bwerys neu gofiadwy mewn digwyddiadau rhwydweithio?
⦁ Yn casau cerdded mewn i ddigwyddiadau neu gyfarfodydd rheolaidd yn eich bywyd?
⦁ Angen delio gyda phobl sydd wastad yn tanseilio eich hyder?
⦁ Yn dioddef o ddiffyg hunan-barch?
⦁ Yn awyddus i ddychwelyd i’r gwaith ar ol cyfnod i ffwrdd ond yn poeni na fyddwch yn medru ymdopi?
⦁ Ymgeisio am swydd well (gyda mwy o dal!!) ond yn amau eich gallu?
Faint mae hyn eisioes wedi costio yn ariannol i chi?
D’wi’n edrych ar yr union bethau ydych chi eisiau cyflawni, beth yw’r rhwystrau ar y ffordd ac yn delio gyda rhai o’r pethau canlynol er mwyn i chi dyfu mewn hyder bob dydd.
⦁ Setio nod neu gol
⦁ Cyflyraeth. (Motivation)
⦁ Ofnau
⦁ Emosiynau
⦁ Sisial mewnol di-ddiwedd
⦁ Agwedd
⦁ Credoau
⦁ Pwysedd
⦁ Sgiliau Pendantrwydd
⦁ Sgiliau Rhwydweithio
D’wi yn optimist di-ben-draw a byth yn rhoi’r ffidil yn y to unwaith d’wi wedi penderfynu fy mod eisiau cyrraedd nod. Mi lwyddes i gael fy fest Gymreig Meistri am y 400metr ar ol 37 mlynedd! Rwyf yn hynod o greadigol ac mae gennyf y gallu i ddadorchuddio doniau a disgleirdeb fy ngleientiaid. Dwi wedi llwyddo i oresgyn, ymdopi a dysgu byw gyda chyflwr corfforol poenus a hir dymor iawn a d’wi’n deall yn union sut i ‘wneud lemoned pan mae bywyd ond yn cynnig lemwn i chi’
Gweler ‘Tystiolaethau‘ i ddarllen am yr hyn mae rhai o’m cleientiaid wedi ei ddweud yn dilyn gweithio gyda mi.