AM GWENNO
Mae Gwenno Dafydd Williams M.Sc.Econ yn anogydd arweinyddiaeth a siarad yn gyhoeddus, darlledwraig, sgwenwraig a pherfformwraig.
Mae Gwenno wedi datblygu ei harbenigedd drwy weithio ar lefel uwch gyda Cwmiau Bach a Canolig eu maint (SME’s) Cymreig ar faterion yn ymwneud a chyflogaeth a chydraddoldeb a bron i ugain mlynedd yn gweithio fel Anogydd Arweinyddiaeth. Mae ganddi gyrfa o fwy na pedair deg mlynedd yn gweithio yn broffesiynol y Mhrydain ac yn rhyngwladol yn y Cyfryngau, Addysg a Busnes. Mae hyn i gyd yn meddwl fod ganddi set cwbl unigryw o sgiliau i alw arnynt.
Mae hi wedi ei lleoli yng Nghaerdydd (Cymru. DU) ond mae hi wedi ymestyn ei phortffolio gwaith Anogaeth, Mentora a Hyfforddiant i weithio gyda chlientiad ar hyd y byd drwy Sgeip. Yn ddiweddar mae hi wedi creu system i anog siarad yn gyhoeddus yn gyfangwbl drwy Sgeip a bu’n cael llawer o lwyddiant gyda chlientiaid yn Los Angeles a Luxemburg.
Dyma fideo ohonaf yn siarad am gynllun anogaeth dwyieithog addysgiadol arloesol gafodd ei sefydlu gan Hodder Educational. Cefais fy mhenhela gan Hodder ym mis Medi 2017 oherwydd fy arbenigedd yn y tri maes canlynol yr oedden nhw am eu cynnwys yn eu cynllun LEAD gydag ysgolion ar hyd a lled Prydain.
- Sgiliau Arweinyddiaeth
- Materion Cyflogaeth ac Amrywiaeth
- Cyflwyniadau Cyhoeddus.
Cyn gleientiaid a chelientiaid presennol
Anogydd Cyswllt⦁ yn y Ganolfan Arweinyddiaeth ac Anogaeth
⦁ Chwaraeon Cymru
Nifer helaeth o sesiynau anog arweinyddiaeth a pharatoi sgwad a hyfforddwyr tim pel-rhywd Cymru 2015 i fod yn barod i ddelio gyda’r wasg ym Mhencampwriaeth Pel-rhwyd Y Byd yn Awstralia.
⦁ Coleg Nyrsio Brehinol
‘Cymorth Cyntaf i argyfwng hunan-hyder’(x3)
⦁ TUC
Amryw o gyrsiau ar adeiladu hyder (2014 & 2015)
⦁ NUT (bellach yn NEU)
Cwrs Siarad yn Gyhoeddus
⦁ Llywodraeth Cynulliad Cymru (Rol Fodel ar gynllun Syniadau Mawr Cymru)
⦁ Chwarae Teg
Amryw o gyrsiau hyder a phendantrwydd
BECTU, Equity, Undeb y Cerddorion a Gild Ysgrifenwyr ym Mhrydain yn dysgu gyda’u gilydd) Cyrsiau Pendantrwydd, Hyder a Rhwydweithio.
⦁ Prifysgol De Cymru
Darlithydd Cefnogol drwy gyfrwng y Gymraeg @Yr Atriym ar eu cwrs Cyflwyno Tedeu a Radio
⦁ Asiantaeth Safonnau Bwyd. (Bethwmbreth o gyrsiau ysgol gynradd ar lanweithdra bwyd a’r perygl o wenwyn bwyd)
⦁ BBC Wales & Cymru (Radio & Theledu)
Wedi gweithio yn llawrydd gyda’r BBC ers 1979 mewn gormod o gynlluniu i’w cofio. Mae’r rhaglen yma wedi cael ei darlledu o leiaf saith o weithiau gan gynnwys unwaith ar BBC2