Mae’r holl waith d’wi yn ei wneud fel Anogydd Arweinyddiaeth a Siarad yn Gyhoeddus wedi ei selio ar stordy helaeth o brofiadau creadigol. D’wi wedi bod yn berfformwraig, sgwenwraig a darlledwraig broffesiynol ers 1980. Mae fy nghyrfa broffesiynol creadigol wedi ymgorffori teledu byw, ffilmiau, radio, cyfarwyddo nifer helaeth o gynhyrchiadau theatr mewn addysg, trosleiso, theatre a chabaret. Fe ddechreuais i berfformio fel twtyn bychan n’ol yn 1961 gyda chynhyrchiadau capel ac ers hynna dwi wedi bod yn perfformio’n gyson. Y tri cynllun dwi yn ymwneud a ar hyn o bryd, ar wahan i ymddangos ar deledu byw bob tair wythnos ar ‘Pnawn Da’ S4C yn y ‘Clwb Clecs’ yw y canlynol.
Dathliadau Dydd Gwyl Dewi
Syniad gwreiddiol Gwenno Dafydd o greu baneri ysgolion a Sirol wedi eu selio ar Anthem Dydd Gwyl Dewi ac i’w gorymdeithio adeg Dydd Gwyl Dewi.
Erthygl o’r Western Mail parthed hyn. (2014)
Gwenno Dafydd – ‘Llysgenad Dydd Gwyl Dewi i’r Byd’ (ers 2017) ar ran gwefan Americymru Erthygl

Plant o Dde a Gogledd Cymru, Los Angeles a Phatagonia yn canu’r gan gyda’u gilydd. Eitem ar ‘Wedi Saith’, Tinopolis yn wreiddiol.
Gwenno Dafydd yn canu a Heulwen Thomas yn cyfeilio i’r Anthem. Trac Cymru (Geiriau dwyieithog Gwenno Dafydd. Cerddoriaeth Heulwen Thomas.)

Stand Up Sock It To Them Sister
Mae Stand Up & Sock it to them Sister, sydd yn gynnyrch dros ugain mlynedd o waith ymchwil, yn ddarn difyr a datganiad pwerus nid yn unig i ferched sydd yn gweithio ym maes comedi dal-dy-dir, ond hefyd i unrhyw ddynes sydd yn gweithio mewn maes lle mae merched yn lleiafrifol. Gyda hiwmor a ffraethineb mae y Gymraes angerddol Gwenno Dafydd yn cyflwyno mwy na 80 cyfweliad gyda merched hynod o ddawnus gan gynnwys Joan Rivers, Amy Schumer, Jo Brand, Ronni Ancona, Helen Lederer a Nina Conti sydd yn cynnwys cyngor ar sut i oresgyn y rhywstrau a’r cyfyngiadau ar sut i gyrraedd y brig yn y proffesiwn sydd yn llawn i’r ymylon o ddynion.
Passionate About Piaf
Mae Gwenno yn cael ei chydnabod fel ‘Y Piaf Cymreig’ gan iddi fod wedi perfformio ei chaneuon nifer helaeth o weithiau ar y radio, teledu ac mewn cynherddau dros y blynyddoedd. Yn 2015, cafodd ei rhaglen ei chomisiynu gan BBC Radio Cymru i ddathlu canrif ers genedigaeth Piaf. Canodd Gwenno gan a gafodd ei nodweddu trwy gydol y rhaglen.
Creuodd Gwenno sioe deyrnged ‘un fenyw’ oedd yn cysylltu rhai o’i chaneuon mwyaf enwog gyda straeon am ei bywyd rhyfeddol o’r enw ‘Passionate About Piaf’ (Angerddol am Piaf). Mae hi wedi perfformio rhai o ganeuon Piaf i ganmoliaeth mawr yn Ne Ffrainc o flaen cynulleidfa Ffrengig. Cyflwynodd y sioe yn gyfangwbl drwy gyfrwng yr iaith Fflemeg yng Nghafe Kiebooms yn Antwerp. Mae wedi canu ei chaneuon Piaf yn Los Angeles a ddwywaith yn Efrog Newydd yn y feniw byd-enwog ‘Don’t Tell Mama’ oddiar Broadway. Fe fydd hi’n perfformio’r sioe yn y West End Awst 2019.
