Mae bod yn arweinydd yn un o’r pethau fwyaf heriol allwn ni ei wynebu erieod. Gall weithiau fod yn le unig tu hwnt i fod, gyda heriau di-ri, a weithiau dyfodol eraill a chyllidau enfawr yn y fantol. S’dim ots pa mor hir ydyn ni’n gweithio ar fod yn arweinydd effeithiol, mae ymarfer yr ymddygiad cywir yn dasg ddi-ben draw. Mae adnabod ac osgoi ymddygiadau anghywir yn dasg ddi-ddiwedd hefyd.
Gofynnwch y cwestiynau canlynol i chi’ch hunan:
⦁ Ydych chi weithiau angen trafod materion busnes pwysig gyda rhywun tu allan i’ch cwmni ond byth yn gwybod ble mae’r encil saff yna lle gallwch chi gnoi cil a thrafod atebion creadigol cyffroes gyda rhywun sy’n deall y byd busnes?
⦁ Ydi ofn yn eich rhwystro rhag gwneud penderfyniadau a all effeithio ar eich cwmni a’ch adnodd fwyaf pwerys, sef eich staff, rhag symud ymlaen.
⦁ Sut allwch chi dorri drwy’r nenfwd wydr sydd yn eich rhwystro rhag cyrraedd y Bwrdd Llywodraethol lle y chi’n perthyn?
⦁ Pa sgilie sydd angen arno chi i symud ymlaen yn eich gyrfa fel arweinydd?
⦁ Yde chi weithiau yn cael trafferth i ddelio gydag aelodau annodd o staff sydd yn gwenwyno eich diwilliant gwaith chi? Fe allai ddangos i chi sut i ddelio gyda’r math yma o sefyllfa ag i symud ymlaen fel arweinydd penderfynol.
⦁ Ydi eich gwerthoedd chi yn effeithio ar eich gallu i symud ymlaen yn effeithiol yn eich gyrfa?
⦁ Beth fydde chi’n gallu cyflawnu petase chi yn y lle ‘perffaith’ yn eich gyrfa?
⦁ Drwy y defnydd o gwestiynau dyrus a miniog (incisive questioning) ac anogaeth heb gyfeirio (non-directive) fe allai ddangos y llwybr a rhai llwybrau cwta-cyflymi chi i byrraedd copa eich mynydd gyrfa neu bersonol – Ymunwch a mi – mae’r olygfa yn wych!
Pwy yw Arweinydd eich bywyd chi?
Ydych chi:
⦁ Weithiau yn teimlo ‘ynghlwm’ neu wedi parlysu a ddim yn gallu symud i unrhyw gyfeiriad, unai yn eich bywyd gwaith neu personol?
⦁ Ddim yn gallu symud mewn unrhyw ffordd neu gyfeiriad rhag ofn i chi wneud y penderfyniad anghywir?
⦁ Ddim yn gallu dioddef eich gwaith, y bos neu eich cwrs coleg?
⦁ Yn y sefyllfa garwriaethol anghywir neu yn teimlo fod pobol yn eich cymeryd yn ganiataol?
⦁ Teimlo eich bod yn arnofio yn ddi-gyfeiriad drwy fywyd – ddim yn wirioneddol gwbod beth yw eich gwir ‘bwrpas’ ond yn brwydro ‘mlaen achos fod angen talu’r bilie bob mis. Ddim yn gwbod pam ydych chi yma ar y ddaear yma?