Fel darlledwraig a pherfformwraig broffesiynol am bedwar deg mlynedd a mwy, allai ddangos i chi rhai o’r tips gwych a thechnegau d’wi wedi eu dysgu a’u datblygu, i ddysgu i chi sut i ddod yn siaradwr/wraig gyhoeddus bwerys,effeithiol ac ysbrydoledig.
Gewch chi byth ail-gyfle i wneud argraff cyntaf, boed hynna fel siaradwraig/wr gwadd, mewn cyfweliad teledu neu radio, mewn cynhadledd, cyfarfod rhwydweithio neu mewn parti felly mae hi’n gwneud synnwyr i chi ddod a’r gorau ohonoch i bob achlysur cyhoeddus.
Faint mae eich ofn o siarad yn gyhoeddus wedi costio eisioes i chi yn ariannol? Hyder eich cyd-weithwyr yn eich gallu fel rheolwr, y band cyflog nesa, cyfle i gael swydd anhygoel, y siawns i ymhyfrydu a dathlu eich llwyddiannau yn gyhoeddus, ennill ‘tendar’ gwaith pwysig lle mae’n rhaid i chi wneud cyflwyniad i ‘werthu’ eich gwasanaeth?

Ydych chi eisiau dysgu sut i :

  • Ddod yn arweinydd gwych?

Mae arweinwyr gwych fel arfer yn gyfathrebwyr heb eu hail.

Dyma beth sydd yn gwneud Barack Obama yn arweinydd a siaradwr cystal. Gwyliwch ef yn hawlio sylw cynulleidfa.

Meddyliwch am Julia Gillard (Menyw flaengar, hyderys o’r Bari sydd wedi gwneud ei marc yn Awstralia)

Dyma Julia Gillard yn ei haraith orau, sef yr un am y gwraig-gasawyr o fewn gwleidyddiaeth.

⦁ Wireddu eich potensial yn y sefyllfaoedd uchod ac mewn unrhyw sefyllfa pan fyddech chi’n cyfarfod pobol eraill.
⦁ Sicrhau fod pobl yn cofio eich cyfarfod bob tro.
⦁ Ddysgu sut i ddweud mwy gyda llai.
⦁ Dweud IE i bob sefyllfa a chyfle i siarad yn gyhoeddus sydd yn dod gerbron gyda brwdfrydedd go iawn yn hytrach na gydag arwsyd.
⦁ Ysbrydoli a chynnau tan ym moliau pobl gyda’ch angerdd be bynnag yw hynna.
⦁ Gwneud eich mab/merch/brawd/chwaer/ffrind gore yn hynod o falch pan fyddwch chi yn eu cywilyddu a’u cyfareddu yn eich araith briodasol wych a hudolys, sydd wedi cael ei hysgrifennau a’i chyflwyno mewn dull hynod broffesiynol.

Areithiau priodasol

Dwi wedi gweithio yn rhyngwladol gyda Sgeip gyda chlientiaid yn Los Angeles felly nid yw pellter yn broblem o gwbl. Mae bob un o’r elfennau canlynol yn cael eu cynnwys i fynd a dechreuwr nerfys i gyflwyniad proffesiynol. R’wy’n mynd a fy nghlientiaid o nodiadau bler i sgript personal cyflwan a r’ydym yn cyd-weithio ar y materion canlynol.
⦁ Datblygiad sgript
⦁ Cysylltu gyda’r gynilleidfa.
⦁ Defnyddo’r meic.
⦁ Sut i sefyll yn bwerus.
⦁ Technegau anadlu ar gyfer ymlacio a taflu’r llais.
⦁ Gwella cyswllt llygaid.
⦁ Datblygiad hiwmor – sut i adeiladu’r stori – oedi – pwnio.
⦁ Sut i fwyta eliffant – fesul llond llwyed! Torri lawr sgript deg munud i fewn i bwyntiau bwled ac o’r dwedd dod oddiar y sgript.
Mae’r hyfforddiant yn cael ei ricordio ac mae’n berffaith amlwg fod twf enfawr o’r sesiwn gyntaf i’r olaf.