Dwi wedi gweithio yn agos gyda Gwenno ers y flwyddyn 2000: fel Cadeirydd Pwyllgor Llywodraethol Ysgol Gymraeg Treganna yng Nghaerdydd, yn ceisio cefnogi ei gwaith arloesol gyda Gorymdaith Genedlaethol Dydd Gwyl Dewi (GGDGD) a mewn nifer helaeth o gyd-destynau cydraddoldeb. Fel cyfrannydd allweddol i fywyd cenedlaethol Cymreig, Gwenno gafodd y syniad ac ysgrifennodd eiriau yn y Gymraeg a Saesneg ar gyfer can swyddogol ‘Gorymdaith Genedlaethol Dydd Gwyl Dewi (GGDGD) gafodd ei lansio yn gynnar yn 2018 gan Yr Arglwydd Dafydd Elis Thomas yn Y Senedd, ac ers hynna mae yn cael ei chydnabod fel Anthem Dydd Gwyl Dewi. Hi hefyd gafodd y syniad am ‘Baner Sir Benfro’, sydd bellach wedi cael cartref parhaol yn Eglwys Gadeiriol Ty Ddewi. Gwenno gafodd y syniad i gael Baneri Sirol i ddathlu ein nawdd Sant ac mae ‘Baner Sir Benfro’ nawr wedi ymgartrefu’n barhaol yn Eglwys Gadeiriol Ty Ddewi. Ers hynna mae hi wedi helpu Baner Sir Gaer a Sir Drefaldwyn i ddod i fodolaeth yn ogystal a nifer helaeth o faneri ysgol – ac mae y Faner Ysgol Gyntaf erioed (o Ysgol Cwmgors) wedi cael cartref parhaol bellach yn San Ffagan – ers 2019. Mae GGDGD wedi hybu’r twf o o leiaf dau ddeg dau o pareds o amgylch Cymru yn 2019 ac mae rhain yn parhau i dyfu bob blwyddyn. Mae GGDGD wedi cynnig y Gymru gyfoes patrwm cynhwysol a chynnes o hunaniaeth cenedlaethol sydd yn gwasanaethu fel engraifft wych ar gyfer y rhai sydd yn ymdrechu i greu cenedl deg a chyfartal ac mae rol Gwenno yn natblygiad a thwf anhygoel y pared yn ddiamheuol. R’wy’n argymell hi hefyd fel actores, cantores a sgwenwraig greadigol o gryn ddawn.
Cyflwynodd Gwenno weithdy ar Hyfforddiant i’r Cyfryngau i Dim Rhyngwladol Pel Rhwyd Cymru i baratoi ar gyfer delio gyda’r Wasg yng Nghwpan y Byd yn Awstralia, fe’i gwnaeth yn rhyngweithiol ag yn lot fawr o hwyl ar ol diwrnod hir yn y gwersyll. R’oedd hi’n medru tynnu ar a rhannu ei phrofiad helaeth o flynyddoedd o brofiad yn y maes yma gyda’r chwaraewyr ar tim rheolaeth. R’oedd y gweithdy yn addysgiadol a’r tips gwych wnaeth Gwenno eu rhannu gyda ni yn hynod o ddefnyddiol o dan olau llachar y wasg yng Nghwpan Pel Droed y Byd. Llawer o ddiolch i Gwenno am rannu ei gwybodaeth a’i harbenigedd gyda ni.

Trish Wilcox
Pennaeth Perfformiad Elitaidd Pel Rhwyd Cymru
Roedd gweithio gyda Gwenno wedi rhoi lle saff iawn i mi allu ymddiried a thrafod rhai materion pwysig iawn, oeddwn i fel Cynghorydd Sir uchel ei broffil angen bod yn ofalgar iawn nad oeddwn yn eu rhannu gydag unrhywun. Mae hi wedi caniatau mi i gysidro, adlewyrchu a gneud penderfyniadau ar nifer helaeth o faterion heriol iawn oedd yn ymwneud a symiau anferthol o arian y treth dalwyr. Fel ffigwr cyhoeddus amlwg, r’oedd anogaeth yn fy nghaniatau i archwilio ac analeiddio penderfyniadau cymhleth iawn mewn amgylchedd cwbl saff a chyfrinachol. Dwi wedi darganfod Gwenno i fod yn hynod o drylwyr a phroffesiynol yn ei dull. Mae hi’n gneud y job yn effeithiol iawn a mae hi’n sicrhau fod y canlyniadau i gyd yn rai positif. Mae hi hefyd yn andros o laff ac yn llawn hwyl!

Dirpryw Arweinydd Cyngor Dinas fawr ac Aelod o’r Cyngor Gweithredu am bedair mlynedd.